Cam-drin Domestig
I gael cyngor ar Gam-drin Domestig, gweler y wybodaeth isod
I gael cyngor ar Gam-drin Domestig, gweler y wybodaeth isod
Cyngor a gwybodaeth ar gam-drin pobl hŷn.
Black Association of Women Step Out (BAWSO) – gwasanaeth i ferched a phlant Du a Lleiafrifoedd Ethnig, a wnaed yn ddigartref trwy fygythiad o drais domestig neu ffoi rhag trais domestig yng Nghymru
Dydd Llun – Dydd Gwener 9yb – 16.45 yp Llinell gymorth 24 awr: 0800 7318147
Diweddariad COVID: Mae’r swyddfa ar gau dros dro oherwydd argyfwng COVID -19; fodd bynnag, rydym yn dal yn hygyrch dros y ffôn.
Mae prosiect Safer Wales Dyn yn darparu cefnogaeth i ddynion Heterorywiol, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol sy’n profi cam-drin domestig gan bartner.
Mae llinell gymorth Dyn Diogel Cymru yn caniatáu ichi siarad yn gyfrinachol â rhywun a all wrando arnoch heb farnu eich sefyllfa.
Llinell Gymorth Dyn: 0808 801 0321
Dydd Llun – 10yb – 4yp
Dydd Mawrth – 10yb – 4yp
Dydd Mercher – 10yb – 1yp
Ar agor 24/7 i wrando ar ddioddefwyr cam-drin domestig a thrais rhywiol a’u cefnogi.
Ffôn: 0808 80 10 800
Testun: 078600 77 333
Gwe-sgwrs: www.gov.wales/live-fear-free
Relate Cymru yw’r elusen genedlaethol ar gyfer cefnogi perthnasoedd yng Nghymru.
Codir tâl am rai gwasanaethau. Mae gwybodaeth am sgwrs fyw a chwnsela dros y ffôn ar gael yma: www.relate.org.uk
Diweddariad COVID: Rydym wedi cynyddu argaeledd ein cwnselwyr tra hyfforddedig i gefnogi perthnasoedd pawb yn ystod y cyfnod digynsail hwn.
Mae Canolfan Cam-drin Domestig a Phrosiect IDVA Cyngor Abertawe (atgyfeiriad yn unig) yn parhau i weithredu, gan ddarparu cyngor diogelwch a chefnogaeth emosiynol i’r rhai sydd mewn perygl ar hyn o bryd, a gellir cysylltu â nhw dros y ffôn.
Fel bob amser, os ydych chi neu rywun arall mewn perygl uniongyrchol ffoniwch 999 a gofynnwch am yr heddlu.
Cynnig grymuso, diogelwch a chefnogaeth i fenywod a phlant sy’n profi cam-drin domestig.
Diweddariad COVID: Llochesi a thai diogel – ar gael. Os daw lle ar gael, bydd pob atgyfeiriad yn cael ei asesu ar ganlyniad asesiad risg iechyd coronafeirws a’r sefyllfa bresennol mewn llochesi mewn perthynas â’r firws a phreswylwyr presennol.
SWAN – allgymorth gyda’r nos yn cynnig gwasanaeth ffenestr yn unig ar nos Lun a nos Iau; cymorth argyfwng yn cael ei gynnig wyneb yn wyneb yn amodol ar asesiad risg iechyd; cymorth ffôn ar gael.